Dysgu Cymraeg yn Ohio er mwyn 'nabod Mam-gu yn well'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ohio wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dros flwyddyn er mwyn dod i "'nabod Mam-gu yn well".
Fe wnaeth Rhys Davis, 19, o Oak Hill - ardal sydd â chysylltiadau hanesyddol gyda Chymru - ddechrau dysgu’r iaith gan ddefnyddio ap Say Something in Welsh (SSiW) ychydig dros flwyddyn yn ôl.
Bwriad Rhys, sydd bellach wedi cwblhau cwrs iaith SSiW, oedd dod yn agosach at Elizabeth Davis, ei Fam-gu, a "deall mwy" am ei hanes "ai stori hi".
Fe wnaeth Elizabeth, 74, symud o Aberaeron i’r Unol Daleithiau yn 24 oed yn 1974, cyn cyfarfod a’i gŵr a phenderfynu ymgartrefu yno.
Aeth y pâr ymlaen i sefydlu Canolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig o fewn Prifysgol Rio Grande yn 1996 - yr unig ganolfan o’i fath yng Ngogledd America.
Ers iddo gychwyn dysgu Cymraeg, mae wedi manteisio ar sawl cyfle i ymarfer.
Bellach, dim ond Cymraeg mae'n siarad gyda'i fam-gu, ac mae ei dad, Evan, hefyd yn siarad rhywfaint.
Mae Rhys hefyd wedi bod yn dibynnu ar ei deulu yng Nghymru i gael defnyddio mwy o’i Gymraeg, gan gynnwys ei hen ewythr Alun, sy'n dal i fyw yn Aberaeron.
“Ro’n i bob amser yn clywed pethau fel ‘nos da’, ‘bore da’, ‘diolch yn fawr’, ‘croeso’ a ‘caru ti’ trwy’r blynyddoedd," meddai Rhys.
Ychwanegodd nad yw'n yn rhugl eto, ond ei fod yn “hapus i ddysgu”, a bod yr iaith "wir yn rhan" o’i fywyd nawr.
Er mwyn cryfhau ei gysylltiad â Chymru, mae Rhys yn awyddus i ailymweld â'i deulu sy'n byw yng Ngheredigion a Sir Benfro, ac ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yn y dyfodol.
Dim ond dwywaith mae wedi ymweld â Chymru yn y gorffennol - unwaith pan oedd yn ifanc iawn, ac unwaith yn ystod yr haf eleni.
Wrth sôn am ei ymweliad diweddaraf â Chymru, dywedodd ei fod wedi cael tipyn o gyfle i ymarfer ei Gymraeg tra yng Ngheredigion.
"'Se ni’n stopio mewn i brynu bara brith neu rywbeth...'se ni’n archebu yn Gymraeg,” meddai.
Ychwanegodd na fyddai wedi cael yr un cyfle be nai bai wedi dysgu'r iaith.
"Fyswn i wedi colli allan ar gymaint," meddai.
“Yn yr Unol Daleithiau, mae Sbaeneg yn gyffredin iawn, felly pan dwi’n sôn bod fi’n siarad Cymraeg, does dim lot o bobl yn deall," meddai.
Mae gan nifer o bobl o ardal Oak Hill, yn ogystal â sawl man arall yn Ohio, gysylltiadau Cymreig.
Dyw hi ddim yn anghyffredin i ddod ar draws pobl â chyfenwau Cymraeg fel Williams neu Davies yn yr ardal.
Yn ôl Rhys, “mae pawb yn gwybod amser maith yn ôl, daeth eu teuluoedd o Gymru.
"Maen nhw’n cofio hynny hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cofio’r iaith.”
Ond nid pawb sy’n rhannu brwdfrydedd Rhys dros ddysgu Cymraeg.
Pan oedd yn cychwyn dysgu Cymraeg tra yn yr ysgol, doedd nifer o’i ffrindiau ddim yn gallu deall pam fyddai Rhys yn dysgu iaith gyda chyn lleied o siaradwyr lleol.
“Mae angen esbonio” arwyddocâd yr iaith, yn ôl Rhys.
“Dwi’n esbonio bob tro – mae fy mam-gu wedi hala cymaint o’i bywyd i gadw’r iaith yn fyw yma, ac mae gyda fi’r adnoddau sydd angen arna i i ddysgu’r iaith, fel fy nhad, fy mam-gu - pobl sy’n gallu ymarfer gyda fi.”
Mae Rhys yn credu'n gryf fod ei fam-gu a’i dad-cu wedi “cadw’r iaith yn fyw yn ne Ohio” wrth sefydlu Canolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig.
Mae gwaith y ganolfan yn cynnwys sefydlu cymanfaoedd canu ac amgueddfa am hanes a diwylliant Cymru, a hyd yn oed chefnogi ysgol leol yn Jackson County sy’n cynnal eisteddfod ei hun.
Yn ôl Rhys, mae’r ganolfan yn rhoi cyfle pwysig i aelodau’r gymuned ddod at ei gilydd, a dywedodd ei bod yn lle “atyniadol” i wrando ar gyngherddau a chofio am eu hanes Cymreig.
Mae’r ganolfan hefyd yn fan ble mae cysylltiadau annisgwyl wedi cael eu ffurfio.
“Mae yna ddyn yn ein tref sy’n dod Aberystwyth, (ac) mae’r cyfarwyddwr yn dod o Langeitho - do'n nhw ddim yn 'nabod ei gilydd o’r blaen ond nawr maen nhw’n ffrindiau.”
Wrth edrych tua'r dyfodol, gobaith Rhys yw parhau i ddysgu a gwella ei ddealltwriaeth o'r Gymraeg.
“Dwi’n gobeithio cael digon o amser tra 'mod i yn y coleg i astudio ar fy mhen fy hunan,” meddai.
Mae'n gobeithio gallu parhau i ddibynnu ar ei deulu a'r gymuned sy'n rhan o'r ganolfan er mwyn ymarfer ei Gymraeg.
"Haf nesaf dwi’n mynd i weithio gyda chyfarwyddwr yr amgueddfa, felly dwi’n mynd i gael un o’r unig swyddi yn yr UDA lle ni’n siarad Cymraeg as the default language!”
Mae Rhys o'r farn fod ei frwdfrydedd a'i ysfa i ddysgu'r iaith yn deillio o'i fam-gu, Elizabeth.
“Heblaw am fy mam-gu bydden i ddim wedi dechrau dysgu Cymraeg o gwbl.
"I fi, mae’r cysylltiad yn bwysig i gofio ein hanes, ond mae’n bwysicach er mwyn dod i 'nabod fy Mam-gu yn well."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2023
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018