Pryder fod diffyg adnoddau i rieni sy'n colli babanod
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Ynys Môn sydd wedi colli dau faban yn ystod beichiogrwydd yn dweud bod diffyg adnoddau i rieni sy'n mynd trwy'r cyfnod anodd.
Fe benderfynodd Emma Barker o Borthaethwy sefydlu elusen a grŵp cymorth i bobl Gwynedd a Môn yr ardal er mwyn rhannu profiadau a siarad ag eraill.
Er ei bod yn cydnabod bod llai o dabŵ bellach ynghylch trafod am golli babanod, dywedodd bod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn "rili helpu", gan ei fod yn rhoi "amser i bobl gael siarad".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod colli baban "ar unrhyw adeg o feichiogrwydd yn peri gofid ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob teulu yn cael cefnogaeth briodol a thosturiol".
'Dim llawer o gwmpas yn lleol'
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, fe rannodd Emma ei phrofiad o golli dau faban yn ystod beichiogrwydd.
"'Naethon ni golli baban yn 2017 ac oedd o ryw wyth wythnos," meddai.
Dywedodd fod "pawb yn d'eud 'babi cyntaf 'da chi wedi colli, ewch chi 'mlaen i gael babi arall'".
Ond dywedodd Emma fod ymateb fel hyn yn "brifo cymaint... do'n i ddim isio unrhyw faban, ro'n i eisiau baban fi".
"Oedden ni'n ffodus iawn, gafon ni fabi iach yn 2019 ac wedyn pan oedden ni'n barod i gael babi arall, 'wnaethon ni drio eto a cholli babi eto yn 2021.
"Erbyn hynna ro'n i'n gwybod be' i ddisgwyl gyda theimladau, gwybod bod dim llawer o gwmpas yn lleol fel ochr cymuned a support i famau a thadau sydd wedi colli babanod."
Wedi iddi golli babi dywedodd ei bod wedi "gofyn i nyrs beth sydd yna yn lleol... 'naeth hi dd'eud fod 'na bamffledi ar y wal, 'helpa dy hun', a phan es i at y wal doedd dim byd yna".
Dywedodd Emma fod diffyg adnoddau i rieni oedd wedi colli babanod, a bod hynny wedi bod yn sbardun iddi sefydlu grŵp Robin's Trust yn yr ardal.
Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 2022 er mwyn rhoi cymorth a chefnogaeth i eraill sy'n mynd trwy brofiad tebyg yn yr ardal.
"Nes i ddechrau o fel grŵp cymunedol lle oedden ni'n mynd am dro a jyst rhywun i bobl gael siarad efo sy'n deall sut 'da chi'n teimlo," meddai.
"'Naeth o dyfu a thyfu... a 'naeth hynny streicio tân ynof fi i eisiau gwneud mwy."
Dywedodd fod y grŵp wedi "adeiladu cymuned ro'n i'n depserate isio pan nes i golli babis".
"Dwi wedi dod i 'nabod gymaint o bobl yn lleol, pobl sydd isio helpu ond hefyd sydd isio neud gwahaniaeth i Gymru, ac mae o jyst yn lyfli."
Dywedodd Anwen Thomas, bydwraig profedigaeth gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda fod "bod yna i nhw [y teuluoedd] mor, mor bwysig".
Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn ceisio "cefnogi'r teuluoedd, creu atgofion gyda nhw a'r babi" fel rhan o'i swydd, gan ychwanegu fod y "cyfnod mwyaf hapus o'u bywyd newydd droi i fod y cyfnod mwyaf anodd o'u bywyd".
Dywedodd iddi fynd i'r maes ar ôl "gweld y teuluoedd yn dod trwyddo a gweld bod dim o'r gefnogaeth yna iddyn nhw".
"O' ni'n mynd yn gymaint o ran o’u bywydau nhw... 'naeth e jyst sbarcio rhywbeth ynof i fod angen neud gwahaniaeth."
'Dim cydnabyddiaeth o gwbl'
Dywedodd Emma fod wythnos ymwybyddiaeth colli babanod yn "rili helpu", gan ychwanegu ei fod yn rhoi "amser i bobl gael siarad".
"Mae'n rhoi amser i bobl sôn am eu babis a dweud eu henwau nhw."
Bellach mae modd derbyn tystysgrif i gydnabod baban sydd wedi marw yn Lloegr, ond dyw hyn heb ddod i rym yn ffurfiol yma yng Nghymru.
Mae Emma o'r farn y byddai cyflwyno rhywbeth tebyg yn "wych", gan esbonio fod "cymaint o bobl sydd wedi colli babis dros y blynyddoedd sydd ddim yn cael y dystysgrif 'na i dd'eud bo' nhw wedi cael babi."
Ar hyn o bryd, dywedodd "does 'na ddim cydnabyddiaeth o gwbl".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn ymestyn y broses ardystio ymhellach i gydnabod achosion o golli babanod yn ffurfiol yng Nghymru".
Ychwanegodd llefarydd fod "gwaith wedi dechrau i ddatblygu cynllun gofal cenedlaethol" ar gyfer y rheiny sy'n colli babi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd18 Mawrth